Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 21 Mawrth 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 10:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Bethan Jenkins Gwyn R Price Ken Skates Joyce Watson Alun Ffred Jones (yn lle Rhodri Glyn Thomas) Eluned Parrott (yn lle Peter Black) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Rhodri Glyn Thomas, Comisiynydd, Commissioner with responsibility for the Welsh Language Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu, Comisiwn y Cynulliad Gwyn Griffiths, Cynghorydd Cyfreithiol |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Owain Roberts (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1.1. Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor, y tystion ac aelodau o’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.1.2. Cafwyd ymddiheuriadau ar gyfer eitem 2 gan Rhodri Glyn Thomas a Peter Black oherwydd eu swyddi yng Nghomisiwn y Cynulliad. Fodd bynnag, roedd Rhodri Glyn Thomas yn bresennol i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac fel yr Aelod â chyfrifoldeb dros y Bil.
1.1.3. Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones ac Eluned Parrott i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar eu rhan, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
1.1.4. Croesawodd y Cadeirydd Peter Black a Rhodri Glyn Thomas a oedd yn bresennol ar gyfer eitemau 3, 4 a 5.
2. Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.
2.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
3.1 Cytunodd y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5.
4. Ystyried yr addroddiad drafft - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad a nododd y bydd yn cael ei osod gerbron y Cynulliad.
5. Ystyried yr adroddiad drafft - Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.